Teitl y ddeiseb:: Ymrwymo i gefnogi dyfodol Ysgol Gymraeg Llundain
Geiriad y ddeiseb: Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod am dynnu ei grant blynyddol o £90,000 yn ôl o fis Mawrth 2026. Heb y grant hwn, bydd yr ysgol yn cau gan chwalu’r modd mwyaf effeithiol o hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn Llundain.
Rhagor o wybodaeth Daw’r grant hwn o strategaeth ‘Cymraeg 2050’, sy’n anelu at gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y £90,000 hwn yn dal i gael ei ddefnyddio i hyrwyddo'r iaith yn Llundain, ond nid yw wedi rhoi manylion ynghylch sut yn union y bydd yn gwneud hynny. Mae'n amlwg mai’r ffordd orau o hyrwyddo unrhyw iaith yw addysgu’r genhedlaeth nesaf o siaradwyr rhugl. Mae'r ysgol yn dod dros effeithiau COVID ac yn tyfu mewn nifer. Nawr yw'r amser i fuddsoddi yn nyfodol yr ysgol, nid i dorri'r cyllid yn ôl.
Mae Ysgol Gymraeg Llundain yn ysgol annibynnol i blant meithrin a phlant oed ysgol gynradd, wedi’i lleoli yn Hanwell ym mwrdeistref Ealing, Gorllewin Llundain. Mae'r ysgol yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, gyda'r nod bod disgyblion yn gwbl ddwyieithog erbyn blwyddyn 6.
Er ei bod yn ysgol annibynnol ac felly nid oes rhaid iddi wneud hynny, mae Ysgol Gymraeg Llundain yn cynnig y Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys y pedwar diben a'r chwe maes dysgu a phrofiad, fel y'u dogfennwyd ar ei gwefan.
Ar wefan Ysgol Gymraeg Llundain mae cyfres o gwestiynau cyffredin, sy'n cynnwys gofyn i ba ysgol y bydd disgyblion yn mynd ar ôl Blwyddyn 6. Yr ateb a roddir yw: "Mae rhai o'n disgyblion yn symud ymlaen i ysgolion uwchradd lleol yn Llundain; mae teuluoedd eraill yn symud yn ôl i Gymru lle gall y disgyblion barhau gydag addysg Gymraeg."
Mae'r ddeiseb hon wedi'i chyflwyno gan gadeirydd corff llywodraethu'r ysgol.
Mae Ysgol Gymraeg Llundain yn ysgol sy'n codi ffioedd. Y gost yw £4,374 y flwyddyn neu £364.50 y mis (o 2024/25) ar gyfer plant 5 oed a hŷn.[1]
Mae’r ysgol yn dweud ei bod yn derbyn pob plentyn waeth beth fo gallu'r teulu i dalu'r ffioedd llawn a bod ganddi “gronfa fechan i helpu gyda hyn”.
Mae'r ddeiseb yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn darparu £90,000 y flwyddyn i Ysgol Gymraeg Llundain o gyllideb Cymraeg 2050. Mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig (WSQ96921) ym mis Gorffennaf 2025 dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg fod Ysgol Gymraeg Llundain wedi cael grant blynyddol o £90,000 y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru er 2015. Yn 2022-23, cafodd daliad untro ychwanegol oedd yn gyfystyr â 4% o'i grant blynyddol, sef cyfanswm o £3,600.
Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Senedd ym mis Gorffennaf 2025 (paragraff 2) fod Llywodraeth Cymru wedi darparu mwy nag £1.2 miliwn o gyllid grant i Ysgol Gymraeg Llundain dros y degawd diwethaf.
Mae llythyr yr Ysgrifennydd Cabinet (dyddiedig 18 Rhagfyr 2025) yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried “y ffaith bod niferoedd y disgyblion wedi gostwng” a’i bod yn edrych ar y “dulliau mwyaf effeithlon o gefnogi’r Gymraeg yn Llundain”. Mae'n dweud bod hyn yn “rhan o’n prosesau gwerthuso a monitro grantiau”. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet (25 Mehefin – paragraff 34) a'r Prif Weinidog (1 Gorffennaf – paragraff 5) wrth y Senedd yn haf 2025 mai dim ond tua 10 o ddisgyblion oedd ar gofrestr Ysgol Gymraeg Llundain.
Cytunodd Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2025 i ddarparu cyllid tan ddiwedd blwyddyn academaidd 2025/26 ac ers hynny, gwahoddwyd yr ysgol i wneud cais am gyllid am dair blynedd arall. Mae llythyr yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud bod hyn i'w ystyried "yn y flwyddyn newydd".
Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 yn ei gwneud yn ofynnol bod Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru yn cynnwys targed o gyrraedd o leiaf miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rhaid i'r strategaeth hefyd osod targedau ar gyfer cynyddu nifer y disgyblion sy'n mynychu ysgolion categori ‘Prif Iaith - Cymraeg’, ac ar gyfer cynyddu’r addysg Gymraeg a ddarperir mewn ysgolion categori “Dwy Iaith” a chategori “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg”.
Gosodwyd Cymraeg 2050, sef y targed statudol presennol sydd gan Lywodraeth Cymru (a osodwyd yn 2017) gan Ddeddf 2025. Mae'r darpariaethau yn Neddf 2025 sy'n ymwneud ag ysgolion yn gymwys i ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn unig. Mae’r briff hwn yn crybwyll y dylid rhoi awgrym o bolisïau Llywodraeth Cymru ynghylch y Gymraeg, yn hytrach na’u bod yn uniongyrchol berthnasol i'r ddeiseb hon.
Fel y trafodwyd uchod, bu cwestiynau llafar yn y Senedd ar y pwnc hwn:
§ i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ar 25 Mehefin 2025 (paragraffau 29-37); ac
§ i'r Prif Weinidog ar 1 Gorffennaf 2025 (paragraffau 1-9).
Bu rhywfaint o sylw yn y cyfryngau ar y pwnc hwn, gan gynnwys erthyglau gan y BBC ar 19 Mehefin, 1 Gorffennaf a 13 Tachwedd 2025.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.
[1] I blant dan 5 oed, gall grant addysg feithrin yn Lloegr dalu am 15 awr o ddarpariaeth yr wythnos o'r tymor ar ôl trydydd pen-blwydd y plentyn. Gall teuluoedd yn Lloegr fod â hawl i gael hyd at 30 awr o ofal plant / addysg feithrin am ddim yn yr ysgol o oedran cynharach o dan y cynllun gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio.